Home MWA Icon
En
Opera

Opera Canolbarth Cymru

Wedi'i gyhoeddi ar: Dydd Iau, 14 Tachwedd, 2024

Cyd-aelod o gymuned ymarfer canolbarth Cymru.......

🎭 Mae Opera Canolbarth Cymru yn credu na ddylai pobl orfod teithio’r holl ffordd i’r ddinas fawr i weld a chlywed opera ffantastig.
Maent yn dod â phobl ynghyd, yn cefnogi lleoliadau lleol ac yn gwahodd a chyflwyno pobl i lawenydd opera. Profwch ddrama ac angerdd Pagliacci yn fyw! Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth fythgofiadwy ac adrodd straeon – mae tocynnau ar gael o hyd ym mhob lleoliad! 🎶 Ieir rwber, cariad a brad wedi'u gosod ar gerddoriaeth hyfryd - beth sydd ddim i'w garu?! Ma’ ‘na dipyn o razzle yn dallu yn yr ail hanner os da chi’n ffansio fe hefyd…

Yn ogystal ag adolygiad pedair seren yn The Guardian, mae adborth y gynulleidfa hefyd yn eithaf da!

"Llongyfarchiadau ar berfformiad syfrdanol nos Fawrth, Bravo i bawb a gymerodd ran!!!"
"Syfrdanol yr hyn y gellir ei gyflawni. Cynhyrchiad gwych. Fe'i gwelsom yn Abertawe. Diolch."
"Wedi mwynhau'n fawr, chwarae'n dda, perfformiadau da a llwyfaniad minimalaidd clyfar."
"Noson wych o opera! Ewch draw os cewch gyfle!"

Peidiwch â cholli perfformiadau olaf taith SmallStages Pagliacci!

Iau 14 Tachwedd – Theatr y Ddraig, Abermaw
Gwe 15 Tach – Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy, Llanfair-ym-Muallt
Iau 21 Tachwedd – Theatr Borough, Y Fenni
Gwe 22 Tach – Hafren, Y Drenewydd


Dolen i docynnau:
https://www.midwalesopera.co.uk/productions/pagliacci-clowns/

Back to top