Catrin Williams - Perthyn
Dydd Sul, 26 Mai, - Dydd Sul, 4 Awst, 2024
-
Overview
-
Works
Catrin Williams B.1966
Datganiad Artist:
Yr artist abstract gorau yng Nghymru.
SYR KYFFIN WILLIAMS - EBRILL 2003
Gwelir fod llawer iawn o’r paentio sydd i’w weld yng Ngymru yn dilyn yr un hen fformiwla - cymylau trymion, wynebau creigiog a garw, ambell fwthyn a ffermwr a’i gi. Mae fel awyr iach gweld artist sy’n creu ei hiaith bersonol ei hun. Dangosa’i llwyddiant wrth gyfuno’i gwaith pwytho gyda’r wynebau paentiedig fod Catrin yn talu gwrogaeth i draddodiad gwaith merched tra ar yr un pryd yn torri’n rhydd o’i hualau. Dathliad mewn ffrwydriad o liw ac egni brwdfrydig yw’r gweithiau hyn - maent yn adlewyrchu hunaniaeth a phersonoliaeth Catrin ei hun.
MARY LLOYD JONES - MAI 2007
I’w weithio mae’r tir iddi hi - i’n cartrefu, i’n bywiogi, i gynnig ffordd o fyw, i’w rhannu gan y gymdeithas. Mae delwedd rhamantus y tirlun - y ddelwedd honno sydd wedi ei chofleidio gan genhedlaethau o baentwyr - yn rhywbeth sydd tu hwnt i’w deall.
TAMARA KRIKORIAN - 1999
Dechreuais arddangos fy ngweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae fy ngwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’m magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond rwyf wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yn fy ngwaith. Mae'r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw. Mae atsain o'm tirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn fy ngwaith diweddar er fy mod bellach yn darlunio arfordir a thraethau penrhyn Llŷn, iardiau cychod a thref Pwllheli.
Rwyf wedi arddangos yn eang ac mae sawl darn o’m gwaith mewn casgliadau preifat ledled y byd - ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Canada, America, Siapan a China - ac mewn casgliadau cyhoeddus yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, MOMA Cymru Machynlleth, Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Gwynedd, ac Oriel Ceredigion Aberystwyth. Rwyf wedi arddangos a chael fy nghynrychioli gan Oriel Martin Tinney Gallery, ac yn ddiweddarach gan Celf Gallery, Caerdydd - trwy hynny arddangoswyd fy ngwaith yng Nghaerdydd, Llundain a China.
Rwyf wedi arwain nifer o weithdai ar gyfer plant ac oedolion ac wedi ymgymryd â llawer o brosiectau artist preswyl a safle-benodol. Rwyf wedi ymddangos ar amryw o raglenni teledu a radio yng Nghymru a thu hwnt. Yn Ebrill 2021 roeddwn ar y gyfres boblogaidd ‘Cymry ar Gynfas’, S4C, fel un o’r paentwyr portread, ac yn fwy diweddar ar rhaglen ‘Adre’, S4C.