Bydd y cwrs 10 wythnos hwn yn ymdrin â phob agwedd ar grochenwaith
Cyflwyniad i Grochenwaith
15 Ebrill - 17 Mehefin 2026
Prynhawniau Mercher 2.00 - 4.30
Neu
Nosweithiau Mercher 6.30 – 9.00
Addas ar gyfer dechreuwyr a chrochenwyr canolradd.
Byddwch yn ymdrin â phob agwedd ar grochenwaith gan gynnwys taflu a bydd cyfle gennych i wneud llestri i'w tanio yn ein ffwrn bren gynaliadwy.
Cost - £220 yn daladwy mewn 2 gam, wrth archebu ac erbyn wythnos 6
Mae tâl ychwanegol am yr holl grochenwaith a anfonir i'w danio, yn ôl pwysau. Bydd hyn yn talu costau deunyddiau.
Uchafswm o 8 lle ar gael.
Gwybodaeth bellach a/neu archebu'n uniongyrchol - office@midwalesarts.org.uk