Trwy’r Drych
Dydd Sul, 1 Mai, - Dydd Sul, 29 Mai, 2022
-
Overview
-
Works
Alys Hardy, ein hartist preswyl clywedol sy’n cyflwyno Trwy’r Drych / Through the Looking Glass, ei harddangosfa gyntaf erioed. Bydd y cyflwyniad hwn o gymysgedd o farddoniaeth, gweledol a chelfyddyd sain yn eich tywys trwy arwynebau cyffredin bywyd ac i fyd llawn teimlad, synnwyr a mynegiant. Gall y byd modern fod yn rhwystredig ac yn aml yn ymddangos yn ddi-hwyl. Mae’r arddangosfa hon yn sôn am sut y gallwn ailddatgan ein nwydau, defnyddio ein synhwyrau, a chysylltu â’n hunain, ac eraill o’n cwmpas, trwy ddefnyddio arfau syml positifrwydd a gobaith.
Mae Alys yn defnyddio: cylchoedd a dolenni o fewn ei gwaith i gynrychioli llif bywyd; elfennau o bob cefndir i ddangos sut y gallwn harneisio ein hamgylchedd er daioni; a defnyddir geiriau i oresgyn rhwystr synhwyraidd a theimladau cyffredinol o anhrefn. Ymgyfarwyddwch â'ch offer mewnol: paratowch eich llygaid, agorwch eich clustiau, a meddalwch eich croen ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn broses arweiniol.