Bydd yr artist arddangos Neil Johnson RWSW, yn trafod ei waith diweddaraf yn yr oriel.
Celf Siarad
Dydd Mercher 21 Mehefin, 2-4pm
Digwyddiad Rhad ac Am Ddim. Croeso i Bawb
Ar ôl gyrfa hynod lwyddiannus yn addysgu Celf a Dylunio yn Ne Manceinion, dychwelodd Neil Johnson i Gymru yn 2007 i ganolbwyntio ar ei waith a’i syniadau ei hun.
Mae Neil yn aelod o Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol Cymru, yn un o sylfaenwyr Borth Arts, yn aelod o grŵp Room 103, yn aelod o bwyllgor Celfyddydau Canolbarth Cymru ac yn ymddiriedolwr yr elusen newid hinsawdd Art+Science. Mae wedi arddangos ei waith ledled Prydain ac yn rhyngwladol, gan gynnwys sioe unigol yn Amgueddfa Celf Fodern Cymru a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth.